Brenin Abdullah o Saudi Arabia
Mae Iran wedi bygwth dial ar Saudi Arabia wedi iddyn nhw ddienyddio’r clerigwr Shiaidd Sheikh Nimr al-Nimr ddydd Sadwrn.

Roedd al-Nimr yn un o 47 o bobol a gafodd eu dienyddio – a’r gweddill yn cynnwys gwrthryfelwyr Shiaidd a nifer o aelodau o al-Qaida.

Roedd al-Nimr yn ganolog mewn protestiadau tan iddo gael ei arestio yn 2012.

Mewn datganiad, dywedodd Goruchaf Arweinydd Iran, Ali Khamenei nad oedd al-Nimr “wedi gwahodd pobol i arfogi nac wedi cynllwynio’n gudd”.

Ond cafodd geiriau Khamenei eu beirniadu gan Weinyddiaeth Dramor Saudi Arabia, wrth iddyn nhw gyhuddo Iran o gefnogi brawychwr.

Yn Tehran, ymgasglodd protestwyr y tu allan i lysgenhadaeth Saudi, gan ganu caneuon gwrth-Saudi.

Fe daflodd nifer o’r protestwyr gerrig at yr adeilad, gan achosi tân yn un rhan o’r llysgenhadaeth.

Mae hyd at 40 o bobol wedi cael eu harestio.

Mae pryderon hefyd y gallai’r penderfyniad i ddienyddio al-Nimr achosi tensiwn newydd rhwng Saudi Arabia ac Irac.