Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi bod Ebola yn Guinea yng ngorllewin Affrica wedi dod i ben.

Mae’r sefydliad yn cynnal seremoni i nodi’r cam ymlaen yn y wlad lle dechreuodd yr achos gwaethaf o Ebola mewn hanes ym mis Rhagfyr 2013.

Mae mwy na 2,500 o bobl wedi marw o’r clefyd yn Guinea. Bu farw mwy na 11,300 o bobl drwy’r byd, yn bennaf yn Liberia, Sierra Leone a Guinea.

Fe gyhoeddwyd bod Ebola wedi dod i ben yn Sierra Leone ar 7 Tachwedd, ac fe gyhoeddwyd ddwywaith nad oedd achosion pellach yn Liberia ond mae bellach mewn cyfnod o wyliadwriaeth am y trydydd tro.