Credir mai gŵr dynes 81 oed, a gafodd ei saethu’n farw mewn cartref preswyl, sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o’i lladd.

Bu farw Rita King yng nghartref De La Mer House, Walton-on-the-Naze yn Essex ar 28 Rhagfyr.

Yn ôl adroddiadau, ei gwr, Ronald, 86, sydd wedi cael ei arestio.

Mae heddlu Essex wedi cadarnhau bod y dyn arfog a Rita King yn perthyn i’w gilydd ac wedi bod yn aros yn y cartref gofal.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad a bod eu hymchwiliadau’n parhau.

Cafwyd hyd i wn ar y safle, meddai ditectifs