Mae awdurdodau Gwlad Belg wedi arestio nawfed person mewn cysylltiad â’r ymosodiadau brawychol ym Mharis fis diwethaf.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn, sydd heb ei enwi, wedi bod mewn cyswllt â Hasna Ait Boulahcen, cyfnither Abdelhamid Abaooud sydd wedi cael ei amau o fod yn brif gynllwynwr.

Cafodd y ddau yna eu lladd mewn cyrch gan heddlu Ffrainc mewn ardal i’r gogledd o Baris ychydig ddyddiau wedi’r ymosodiadau a laddodd 130 o bobl.

Cafodd y person diweddaraf ei arestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o fod yn rhan o grŵp brawychol ac o lofruddiaethau brawychol.

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi cael ei eni yn 1985 a’i fod yn ddinesydd Gwlad Belg.