Mae ffoaduriaid Cristnogol sy’n dianc o’r rhyfel cartref yn Syria yn cael eu cau allan o raglen ail-leoli ym Mhrydain, yn ôl pennaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd y Cardinal Vincent Nichols ei fod yn “ffaith” bod Cristnogion yn cael eu herlid yn fwy nag unrhyw grŵp arall yn y byd, ond mai ychydig o Gristnogion sy’n dianc o Syria fydd yn cael lloches yn y DU o dan gynllun y llywodraeth.

Fe wnaeth Archesgob San Steffan hefyd amddiffyn y Fatican dros achos dau newyddiadurwr o’r Eidal sydd wedi’u cyhuddo o gyhoeddi dogfennau’r Babaeth Esgobaeth, gan ddweud eu bod yn “gyfrinachol”.

Mae grwpiau hawliau dynol wedi beirniadu achos y ddau, Emiliano Fittipaldi a Gianluigi Nuzzi a allai wynebu wyth mlynedd yn y carchar am gyhoeddi dogfennau am gamreoli ariannol y Fatican.

Dywedodd y Cardinal Nichols bod Cristnogion wedi cael eu herlid erioed a bod rhaid gwneud mwy i gadw’r mater yn llygaid y cyhoedd.

O dan raglen Llywodraeth Prydain, bydd 20,000 o ffoaduriaid yn dod i Brydain o wersylloedd ar y ffin â Syria.

Dywedodd Vincent Nichols wrth BBC Radio 4 fod Cristnogion yn llai tebygol o fynd i’r gwersylloedd hyn ac y byddan nhw’n mynd i wersylloedd o dan sefydliadau Cristnogol.

Roedd yn pryderu felly na fyddai’r un Cristion yn cael lloches yn y Deyrnas Unedig o dan y cynllun.