Hannah Witheridge
Mae dau ddyn o Burma wedi’u cael yn euog o lofruddio dau deithiwr o Brydain yng Ngwlad Thai y llynedd.
Mae Zaw Lin a Wai Phyo bellach yn wynebu’r gosb eithaf am ladd Hannah Witheridge, 23 o Norfolk a David Miller, 23 o Ynys Jersey.
Cafwyd hyd i gorff y ddau deithiwr ar draeth ar yr ynys wyliau, Koh Tao ym mis Medi 2014.
Fe wnaeth y ddau weithiwr bar o Burma gyfaddef i’r llofruddiaeth yn wreiddiol ond yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw dynnu eu cyffes yn ôl, gan ddweud eu bod wedi’u harteithio gan yr heddlu.
Yn yr achos, roedd erlynwyr yn dweud bod tystiolaeth DNA a gafodd ei chasglu o fonion sigaréts, condom a chyrff y dioddefwyr yn gysylltiedig â Zaw Lin a Wai Phyo.
Ond mae eu cyfreithwyr yn dweud nad oes samplau DNA o’r arf honedig yn gysylltiedig â nhw ac y byddan nhw’n apelio yn erbyn y dyfarniad heddiw.
Roedd Hannah Witheridge o Norfolk a David Miller o Ynys Jersey, wedi cyfarfod ar ynys Koh Tao wrth aros yn yr un gwesty.
Mae archwiliadau post-mortem yn dangos bod y ddau wedi dioddef anafiadau difrifol i’r pen. Roedd Hannah Witheridge wedi cael ei threisio a bu farw David Miller ar ôl cael ei daro ar ei ben cyn boddi yn y môr.