RNLI Cymru yn Cumbria
Mae dau fachgen gafodd eu hachub yn ystod llifogydd Cumbria wedi cael anrheg Nadolig cynnar gan griw achub o Gymru.

Roedd Sebastian a Jacob Holmes, sydd yn bump a thair oed, wedi cael eu hachub o’u gwlâu wrth i ddŵr amgylchynu cartref eu nain a’u taid ar 6 Rhagfyr.

Cawsant eu denu allan o’r tŷ ar ôl i weithwyr achub addo y bydden nhw’n cael helmedau Tîm Achub Llifogydd unwaith roedden nhw’n saff.

Ac maen nhw wedi aros yn driw i’r addewid hwnnw, gyda gwirfoddolwyr o dimau RNLI Biwmares, Abersoch, Y Rhyl a Moelfre yn mynd draw i roi anrheg Nadolig cynnar i’r bechgyn yn Lytham St Annes, Swydd Gaerhirfyn.

‘Gweithred arbennig’

“Ar ôl cael eu hachub fe ddywedodd Sebastian a Jacob eu bod nhw wedi cael addewid o helmedau,” meddai tad y bechgyn Alan Holmes, oedd ddim gyda’r plant yn ystod y llifogydd.

“Ond fe wnes i jyst cymryd mai rhywbeth roedd criw’r RNLI wedi’i ddweud oedd hynny, er mwyn eu denu allan o’r tŷ am fod ofn arnyn nhw.

“Mae gwneud yr ymdrech i ddod yr holl ffordd yma a chyfarfod y bechgyn a rhoi’r anrhegion iddyn nhw mewn pryd ar gyfer y Nadolig yn weithred arbennig.”