Mae'r Tori David Jones ar fai yn cwyno am goisMDavid Jones AS
Mae’r Tori David Jones ar fai yn cwyno am y gost o gyflogi prif weithredwr i swyddfa Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, o gofio mai ei blaid ef wnaeth gyflwyno’r drefn yma o oruchwylio’r heddlu.
Dyna farn un o gynghorwyr sir Plaid Cymru sy’n gobeithio bod yn Gomisiynydd Heddlu ei hun y flwyddyn nesaf.
Roedd David Jones, AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, wedi gofyn pam fod angen i Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd gyflogi prif weithredwr ar gyflog o £75,000 y flwyddyn.
Syniad y Ceidwadwyr oedd creu swyddi’r Comisiynwyr Heddlu a mynnu bod ganddyn nhw brif weithredwyr.
Ond yn ôl David Jones mae gan Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, Winston Roddick, ddirprwy eisoes, ac fe fyddai’n “anodd gweld beth fydd ar ôl iddo wneud” petai’n cyflogi prif weithredwr hefyd.
Yn ôl Arfon Jones, cynghorydd sir o Wrecsam fydd yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Comisiynydd Heddlu’r Gogledd yn 2016, mae David Jones yn ceisio chwarae gêm wleidyddol.
“Y Ceidwadwyr sydd wedi cyflwyno’r Comisiynwyr yma a nhw sydd wedi rhoi’r rheolau yn eu lle,” meddai Arfon Jones. “Mae yna beryg o pot calling the kettle black gan David Jones yn fan hyn.”
‘Troi llygad ddall’
Ar hyn o bryd mae Winston Roddick ar gyflog o £70,000 fel Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, tra bod ei ddirprwy Julian Sandham ar £44,000.
Byddai’r prif weithredwr newydd felly’n cael ei dalu’n fwy na’r Comisiynydd.
Ond yn ôl y rheolau gafodd eu creu gan y Ceidwadwyr pan gyflwynon nhw’r swyddi yn 2012, mae’n rhaid cael prif weithredwr.
Ychwanegodd Arfon Jones nad oedd David Jones wedi codi’r un pryderon am gost prif weithredwr Comisiynydd Heddlu Ceidwadol ardal gyfagos Dyfed Powys, a hynny mwy na thebyg am eu bod o’r un blaid.
“Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu Ceidwadol Dyfed Powys gostau uchel hefyd, a dydw i ddim yn clywed David Jones yn herio hynny,” meddai Arfon Jones wrth golwg360.
“Y gwir ydi bod yn rhaid i Winston Roddick gael prif weithredwr, mae o yn y rheolau sydd wedi cael eu gosod.”
Cwestiynu costau
Cyfaddefodd Arfon Jones fodd bynnag bod AS Gorllewin Clwyd yn codi cwestiynau teilwng am gostau swyddfa’r Comisiynwyr Heddlu, gan ddweud y dylai Winston Roddick fod yn fwy agored am gostau ei staff.
“Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys yn gwbl agored ynglŷn â chostau a chyflogau staff, fe allwch chi eu gweld nhw i gyd ar eu gwefan,” meddai Arfon Jones, sydd yn gynghorydd ar Gyngor Wrecsam.
“Ond does dim sôn am faint o staff mae Winston Roddick yn ei gyflogi a beth yw’r gost, felly mae’n bosib y gallan nhw fod yn fwy agored am hynny.”