Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am blant sy’n dioddef trais domestig yn dweud bod pobol ifanc yn aml yn cael eu hanghofio wrth siarad am y broblem.

Mewn ffilm fer mae’r elusen Refuge yn pwysleisio’r ffaith bod 750,000 o blant bob blwyddyn yn gweld trais domestig yn digwydd, profiad a all gael “effaith ddofn a pharhaus” arnyn nhw.

Bwriad eu hymgyrch ar y cyd â Facebook yw annog pobol i godi arian ac ymwybyddiaeth drwy ddefnyddio’r hashnod #givethemrefuge.

Mae fideo’r ymgyrch yn dangos merch ifanc yn agor anrhegion o dan goeden Nadolig wrth gael ei ffilmio gan ei chwaer, ond maen nhw’n  gadael yr anrhegion pan fydd dadl dreisgar rhwng eu rhieni.

2 o bob 3 sy’n ceisio lloches yn blant

“Mae menywod a phlant yn mynd trwy drais domestig drwy’r flwyddyn, ac i lawer, bydd Rhagfyr 25 fel unrhyw ddiwrnod arall, wedi’i lenwi ag ofn ac ansicrwydd,” meddai prif weithredwr Refuge, Sandra Horley.

Yn ôl yr elusen, mae dwy ran o dair o’r rhai maen nhw’n cynnig lloches iddyn nhw yn blant.

“I’r rhai sy’n dianc ac yn dod i un o’n llochesi, rydym yn cynnig mwy na tho uwchben menywod a phlant, rydym yn cynnig cymorth hanfodol sy’n rhoi cyfle i fenywod a phlant ddechrau bywyd newydd,” ychwanegodd Sandra Horley.

“Er hyn, mae’r lleoedd rydym yn cynnal o dan fygythiad. Mae Refuge yn ceisio codi arian i gadw ei wasanaethau i fynd.”