Mae o leiaf 31 o bobl wedi cael eu lladd a dros 100 wedi cael eu hanafu mewn tân mewn ysbyty yn Saudi Arabia.

Dywedodd llefarydd Amddiffyn Sifil y wlad, y Cadfridog Yahya bin Abdullah al-Qahtani, nad oedden nhw’n gwybod eto beth achosodd y tân yn rhanbarth de orllewin Jizan.

Fe ddechreuodd y tân yn oriau man bore dydd Iau o gwmpas wardiau gofal dwys, mamolaeth a newydd-anedig yr ysbyty.

Mae sawl damwain fawr wedi digwydd yn y wlad eleni, gan gynnwys craen yn disgyn a laddodd 111 o bobl, a rhuthrad yn ystod pererindod Hajj ym mis Medi laddodd dros 2,400.