Bydd tafarndai a chlybiau nos ym Mro Morgannwg yn profi lefel yr alcohol yng ngwaed eu cwsmeriaid wrth y drws, a hynny i weld os ydyn nhw wedi meddwi gormod i fynd i mewn.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru i brynu teclynnau profi anadl i’w defnyddio mewn 12 lleoliad.
Wrth ddisgwyl at gyfnod yr ŵyl, lle fydd tafarndai yn brysur ledled y wlad, mae’r cynllun peilot wedi dechrau a bydd profion eraill tebyg yn cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig.
Yn ôl asesiadau iechyd diweddar, mae mwy a mwy o bobol yn yfed ar lefelau peryglus, gyda phobol bellach yn yfed yn eu cartrefi cyn mynd allan am y noson.
Bwriad y cynllun yw ceisio atal gor-yfed ac annog pobol i fod yn gall yn ystod hwyl yr ŵyl.