Yr efeilliaid yn y beudy
Mae ffermwyr yn Swydd Nottingham wedi cael eu synnu ar ôl i ddafad roi geni i ddau oen bach, er nad oedd dim arwydd ei bod hi’n feichiog.

Doedd staff yn fferm White Post yn Farnsfield ddim hyd yn oed yn gwybod bod Shirley’r ddafad wedi paru â’r hwrdd, ac yn credu ei bod hi dal yn wyryf.

Welodd y ffermwyr ddim arwydd ar sgan uwchsain bod Shirley yn feichiog chwaith, felly daeth yr efeilliaid bychan fel tipyn o syndod iddyn nhw.

“Mae hi’n wyrth Nadoligaidd,” meddai Anthony Moore, llefarydd ar ran y fferm.

“Doedden ni heb farcio’r ddafad ac roedd yr uwchsain yn negyddol felly roedd hi’n syndod i bawb. Doedd dim tystiolaeth ei bod hi’n feichiog… mae’r ddau oen bach yn gwneud yn dda.”