Llun PA
Wrth i bobol ar hyd a lled Cymru ffarwelio â’r swyddfa am wythnos neu ddwy, mae ymchwil newydd wedi awgrymu ein bod ni’n llawer mwy tebygol na phobol gwledydd eraill o ddefnyddio’n holl wyliau blynyddol.
Mae gweithwyr Ewropeaidd, gan gynnwys y rheiny ym Mhrydain, yn tueddu i gymryd yr holl wyliau sy’n cael eu caniatáu iddyn nhw, yn ôl adroddiad gan Expedia.
Ar y llaw arall dyw gweithwyr o’r Unol Daleithiau ac Asia ddim yn cymryd eu holl wyliau blynyddol.
‘Chwe diwrnod o wyliau’
Yn ôl yr ymchwil mae pobol yng ngwledydd Prydain yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol ar gyfartaledd, ac yn eu cymryd nhw i gyd.
Mae’r un peth yn wir am bobol o Frasil, Ffrainc, Yr Almaen, Sbaen a’r Ffindir, sy’n cymryd pob un o’u 30 diwrnod.
Ar y llaw arall dim ond 12 o’u hugain diwrnod y mae gweithwyr Siapan yn ei gymryd, gydag Americanwyr yn manteisio ar ddim ond 11 o’u 15 diwrnod.
Ac mae gweithwyr o Dde Corea yn treulio prin fwy nag wythnos i ffwrdd o’r gwaith, gan gymryd chwech o’u 15 diwrnod o wyliau.
Buddiol
“Rydyn ni’n parhau i ganfod bod agweddau Ewrop tuag at gymryd amser i ffwrdd yn wahanol iawn i Ogledd America ac Asia,” meddai Andy Washington o Expedia.
“Mae cydbwysedd iach i fywyd gwaith yn fuddiol i gyflogwyr a gweithwyr, gyda llawer yn dychwelyd wedi ymlacio ac yn fwy parod i ganolbwyntio.”