Lucy Burrows
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio am unrhyw wybodaeth wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i ddynes o Sir Benfro sydd yn parhau ar goll.

Cafodd Lucy Jayne Burrows, sydd yn 30 oed, ei gweld diwethaf y tu allan i siop Iceland yng nghanol tref Hwlffordd am 3.10yp ddydd Mercher 23 Rhagfyr.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn pryderu am ddiogelwch y ddynes, sydd tua 5’7’’ o ran taldra, ac sydd â chysylltiadau ag ardal Crymych.

Mae ganddi wallt tywyll hir (er mai melyn yw lliw ei gwallt yn y llun sydd gan yr heddlu ohoni), ac roedd hi’n gwisgo cardigan ddu, legins du, bŵts llwyd gyda ffwr ac yn cario bag llaw â lluniau o geffylau arni.

Gofynnodd Heddlu Dyfed Powys wrth unrhyw un oedd â gwybodaeth am Lucy Burrows i gysylltu ar 101.