Mae llys yn Siapan wedi rhoi caniatâd i ailddechrau dau adweithydd niwclear yn dilyn apêl.

Roedd Cwmni Pŵer Trydanol Kansai, sydd yn rhedeg y safleoedd yn Takahama, wedi dweud eu bod yn saff.

Yn gynharach eleni roedd Llys Rhanbarthol Fukui wedi derbyn cais gwaharddiad gan grŵp o drigolion lleol, yn dweud y byddai daeargryn oedd yn fwy pwerus nag y gallai’r orsaf ei wrthsefyll, yn creu difrod tebyg i’r hynny a welwyd yn Fukushima yn 2011.

Ond fe gafodd y cais gwaharddiad hwnnw ei godi gan y llys, gan olygu bod adweithyddion rhif 3 a 4 Takahama nawr yn gallu ailddechrau.

Effaith Fukushima

Dim ond dwy o’r 43 adweithydd niwclear yn Siapan sydd yn rhedeg ar hyn o bryd, a hynny pedair blynedd a hanner ers damwain Fukushima.

Bryd hynny fe darodd swnami a daeargryn ochr ddwyreiniol y wlad, gan achosi difrod mawr gan gynnwys i’r orsaf niwclear.

Ers hynny mae trigolion ardal gorsaf Fukushima Daiichi wedi gorfod symud oddi yno, ac fe benderfynwyd cau holl orsafoedd niwclear y wlad am y tro.

Mae’r ddau adweithydd fydd nawr yn ailddechrau yn Takahama ar ochr orllewinol y wlad, tua 500km i ffwrdd o orsaf Fukushima.