Ers i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin ar Chwefror 24, synnwyd y byd gan wrthsafiad arwrol pobol y wlad. Ond y gwir trist yw bod yr Wcreiniaid wedi cael digon o brofiad o ryfel yn yr oes fodern. Dyma’r pedwerydd rhyfel i rwygo’r wlad mewn dim ond ychydig dros ganrif. Fel gyda phob rhyfel, bu rhaid i filoedd lawer ffoi am eu bywydau. Yn yr un modd ag y gwelwn filiynau yn gadael Wcráin nawr, a theuluoedd yn cael eu gwasgaru, cafodd teulu fy mam ei effeithio gan ryfeloedd yr 20fed ganrif.

Iddewon Rwsieg eu hiaith o Odesa oedd taid a nain, Jeremias (Yeremey oedd ei enw Rwsieg) a Roza Grossman. Roedd rhieni Jeremias wedi ffoi o Moldofa (talaith Rwsia ar y pryd) yn 1883 rhag y pogrom (cyflafan) yn erbyn Iddewon yno. Cawsant loches yn Odesa, nid nepell o ffin Moldofa. Fel prif borthladd Rwsia i’r de, roedd y ddinas yn gymysgedd ethnig, gyda nid yn unig Rwsiaid ac Wcreiniaid, ond hefyd Groegwyr, Eidalwyr ac eraill – a llawer iawn o Iddewon. (Bu rhywfaint o debygrwydd rhwng hanes datblygiad modern Odesa – dinas a sefydlwyd mor hwyr â 1795 – a Chaerdydd.) Ddiwedd y 19eg ganrif, roedd cyfleoedd llu am fusnes yno, ac fe aeth Rahel Grossman, mam Jeremias, ati i adeiladu cwmni masnach o gwmpas y Môr Du.

Menyw hynod oedd Rahel. Fel merch i rabbi o Moldofa, priododd Yakov Grossman pan yn ifanc iawn. Hi, ac nid Yakov, oedd gwir ben y teulu. Tra oedd ei gŵr yn treulio’i amser yn astudio’r Ysgrythurau Iddewig, roedd Rahel yn brysur gyda’i busnes, gan fagu pump o blant ar yr un pryd. Diolch iddi hi, cododd y teulu i’r dosbarth canol cyffyrddus a oedd yn siarad Rwsieg (Yideg oedd iaith wreiddiol y Grossmaniaid). Roedd Rahel yn gallu fforddio addysg dda i’w phlant – ac yn bwysicach fyth, llwyddodd y teulu i osgoi effeithiau pogrom 1905 yn Odesa, a achosodd farwolaeth rhyw 300 o Iddewon (pobol dlawd gan fwyaf).

Cafodd Jeremias ei addysgu yn yr Almaen, ac wedi iddo dderbyn ei ddoethuriaeth mewn mathemateg yn Goettingen ym 1912, cymerodd swydd yn 28 oed fel athro mewn coleg yn Yekaterinoslav yng nghanol Wcráin – Dnipro heddiw. Bu’n dysgu hefyd yn Kharkiv. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd e ymysg y nifer fechan iawn o Iddewon a wasanaethodd fel swyddog ym myddin Rwsia. Ar ôl y chwyldroadau yn 1917, ymunodd Jeremias a’r Fyddin Wen yn y rhyfel cartref yn erbyn y Bolsieficiaid – roedd e am aros yn driw i’w lw i’r Tsar Nicolas II. Ond yn fuan, cafodd ei ddadrithio wrth weld bod y Fyddin Wen yn dial ar Iddewon. Dychwelodd Jeremias i’w swydd yn Dnipro a’i wraig newydd, Roza Yaroslavskaya. Yma ar 24ain Tachwedd 1919, ganwyd fy mam, Ida – a adnabyddwyd fel Judith ar ôl iddi ddod i Brydain.

Cyfnod cythryblus a pheryglus oedd hwn yn Wcráin. Gyda’r Bolsieficiaid bellach yn rheoli Dnipro, un noson yn gynnar yn 1920, cafodd Jeremias ei ddal am archwiliad gan yr heddlu. Diolch byth, dychwelodd i’r teulu y bore wedyn ond penderfynodd rhieni Judith ei bod hi’n bryd gadael y wlad. Aethant ‘nôl i Odesa i ffarwelio â theuloedd Jeremias a Roza – y tro olaf iddyn nhw gwrdd fel teulu cyfan. Yno i ffwrdd dros y ffin yn anghyfreithlon, gan aros yn Lithwania am fwy na flwyddyn. Fel ffoadures y dechreuodd fy mam mewn bywyd felly. Wedyn aethant i’r Unol Daleithiau, ond nid oedd Jeremias yn fodlon gyda’r swydd academaidd y cafodd yno. Yn y diwedd, ymsefydlodd y tri ohonynt ym Mhalesteina adeg y Mandad Prydeinig ym 1923. Cododd Jeremias i fod yn ddirprwy gyfarwyddwr yr Athrofa Technoleg yn Haiffa ac yn athro mathemateg mawr ei glod.

Misha Grossman
Misha Grossman

Hanes eitha’ trist sydd gan y teulu Grossman ehangach – ond nid un anarferol yn Wcráin. Pump o blant Yakov a Rahel a dyfodd i aeddfedrwydd. Tanya, y plentyn hynaf, oedd yr unig un nad oedd yn academaidd o gwbl. Collwyd pob cyswllt â hi ar ôl y Chwyldro Bolsieficaidd, ond gwyddom iddi golli ei hunig fab gyda’r Fyddin Goch yn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd Roza, y ferch nesaf, un ferch, Vera (mwy amdanyn nhw toc).

Symudodd Misha, brawd ieuengach Jeremias, i Rwmania ar ôl y Chwyldro. Priododd â Nadia Bulighin, artist talentog – mae dau o’i luniau i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Rwmania yn Bwcarest. Ni chawsant blant. Bu farw Nadia yn ifanc, ond trwy ryw wyrth goroesodd Misha yr Ail Ryfel Byd yn Rwmania, er gwaethaf agweddau wrth-semitig y llywodraeth yno. Agnesa, y ieuengaf o’r pum plentyn, biau’r stori tristaf oll. Arhosodd yn Odesa, gan ddarlithio mewn mathemateg yn y brifysgol. Pan feddiannodd milwyr Rwmanaidd y ddinas ym 1941, lladdwyd Agnesa, ei gŵr a’u hunig ferch, ymysg 220,000 o Iddewon o’r rhanbarth a saethwyd neu a yrrwyd i wersylloedd carchar.

Vera Spivak
Vera Spivak

Oddeutu 1996, cafodd fy ngwraig Maggie y cyfle i gwrdd â Vera Spivak tra’n ymweld â swyddfa’r BBC yn Kyiv. Teithiodd ryw awr i’r de o brifddinas Wcráin i dref fawr Bila Tserkva. Menyw fechan 86 oed, yn edrych yn debyg iawn i’w chyfnither, oedd Vera. Roedd hi’n cofio cwrdd â Judith a’i rhieni yn Odesa ym 1920 cyn iddynt adael am byth. Esboniodd sut yr oedd hi a’i mam Roza wedi goroesi’r rhyfel. Gyda’r lluoedd Almaenig yn rhuthro dros diriogaeth yr Undeb Sofietaidd, symudwyd 16.5m o bobol tu hwnt i’r bygythiad i ddiogelwch tua’r dwyrain – i Tashkent yng nghanolbarth Asia yn achos Roza a Vera (mae’n ymddangos bod ei thad Yakov Spivak wedi marw erbyn hynny). Yno arhosant am weddill y rhyfel, nes iddyn nhw gael gorchymyn gan yr awdurdodau i ddychwelyd i Wcráin. Yno clywsant fod gweddill y teulu a oedd wedi aros, a nifer fawr o’u hen ffrindiau, wedi colli eu bywydau. Aeth Roza a Vera i fyw yn Bila Tserkva, lle oedd Vera yn dal i ddysgu’r piano (fel ei mam gynt) a sgwennu barddoniaeth. Ni phriododd hi ac ni chafodd blant. Cadwodd Vera a Judith mewn cyswllt trwy’r post nes i Vera farw yn 2004 yn 95 oed.

Mae’n anodd iawn i fagu plant mewn amodau rhyfel, chwyldro ac alltudiaeth – dyna pam esgorodd pum plant Yakov a Rahel ar ddim ond pedwar o wyrion. Dim ond Vera Spivak a Judith Grossman a oroesodd yr Ail Ryfel Byd. Fy mrawd, fy chwaer a fi yw’r unig ddisgynyddion yn y bedwaredd genhedlaeth ar ôl Yakov a Rahel.

Hanes tebyg – sef ffarwelio ac alltudiaeth – yw ffawd y teulu Yaroslavsky ar ochr fy nain Roza. Allfudodd ei brawd hŷn Boris i’r Unol Daleithiau ym 1920. Daeth ei ferch Natalie (cyfnither fy mam) o Efrog Newydd i aros gyda ni yng Nghymru ddwywaith yn y 1960au. Aeth Vera, chwaer hŷn Roza, i fyw yng Ngwlad Pwyl gyda’i gwr – cawsant un plentyn, mab a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Ymwelodd Tanty (Modryb) Vera hithau â ni pan oeddwn rhyw chwech oed.

Oni bai am y rhyfeloedd a’r chwyldro, fwy na thebyg buasai llawer mwy o’r teluoedd Grossman a Yaroslavsky wedi aros yn Wcráin, a buasai llinach y ddau deulu wedi goroesi yn y wlad hyd heddiw. Nawr mae pedair miliwn wedi ffoi o Wcráin, yn ôl y Cenhedloedd Unedig. Ofnaf na fydd cyfran fawr o’r bobol hyn byth yn dychwelyd i Wcráin. Mae pob alltud, a phob un o’i blant, yn golled i’w famwlad – colli’r dyfodol, colli talent ac egni yw hwn. O flaen ein llygaid mae hanes teulu fy mam yn cael ei ailadrodd.