Mae’n bwysig cael “llais ifanc” ar Gyngor Gwynedd yn ôl Kim Jones, sy’n ymgeisydd dros Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol yn ward Llanberis a Nant.
Bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar Fai 5 a bydd Plaid Cymru, sydd â mwyafrif yng Ngwynedd, yn gobeithio adeiladu ar y cynnydd cymedrol wnaethon nhw yn 2017.
Mae’n etholiad unigryw yng Nghymru oherwydd mai dyma’r tro cyntaf y bydd pobol 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol.
Beth fyddai blaenoriaethau Kim Jones pe bai hi’n cael ei hethol i gynrychioli’r ward, felly?
“Prisiau tai ydi un o’r heriau mwyaf rydan ni’n eu hwynebu yma yn Llanberis a Nant,” meddai wrth golwg360.
“Mae hi’n dechrau troi fel Abersoch yma, mae prisiau tai dros £200,000 yn braf, a phan ti’n rhywun ifanc fel fi, does gen ti ddim gobaith oni bai dy fod ti’n etifeddu arian teulu neu dy fod ti’n cael y tŷ gan Nain a Taid neu rywbeth.
“Felly mae hynna yn rhywbeth sydd angen gwaith, mae Cyngor Gwynedd yn dechrau prynu tai rŵan ac efallai y byddai modd gweithio efo mudiad fel Tai Teg i wneud rhywbeth yn Llanberis.
“Peth arall sy’n bwysig i mi ydi gwarchod to hŷn ein cymuned ni.
“Wnes i gynnal prynhawn afternoon tea yn y ganolfan (gymunedol) yr wythnos diwethaf i do hŷn y gymuned achos ers y cyfnod clo, mae gennym ni lwyth o fflatiau i’r henoed yn Llanberis ac mae lot ohonyn nhw’n byw ar ben eu hunain.
“Efallai bod gan rai ohonyn nhw ddim teulu, yn gweld dim oni bai am bedair wal, felly mae isio rhywbeth i’w cael nhw allan o’r tŷ.
“Mae eu llais nhw dal yn bwysig.
“Wrth gwrs wedyn, mae gen ti broblemau mawr yn Llanberis o ran parcio a thwristiaeth sy’n rhywbeth sydd angen lot o sylw.”
‘Llais ifanc’
“Hyd yma, dw i wedi cael lot o bobol hŷn yn fy nghefnogi oherwydd fy mod i yn trio cael nhw’n fwy involved yn y gymuned,” meddai wedyn.
“Dw i wedi cael rhai pobol yn dweud wrtha i fy mod i’n rhy ifanc, ond mae isio llais ifanc yn does, mae isio gwaed newydd.
“Ond ia, mae’r mwyafrif yn rili cefnogol i fy syniadau.
“Un fasa trio cael resident parking achos bod twristiaid yn dod yma i drio parcio am ddim.
“Mae yna lot fawr yn keen iawn ar y syniad o gael carnifal neu Eisteddfod gan nad oes yna lawer i blant wneud yma, dydy rhieni ddim isio gweld eu plant yn cerdded ar hyd strydoedd gyda’r nos.
“Ac wrth gwrs, mae yna lot o bobl yma sy’n gefnogol i Blaid Cymru.
“Un peth da dw i wedi gweld ydi bod lot o bobol ddi-Gymraeg yn cefnogi Plaid Cymru achos mae yna lot o ddysgwyr yma.
“Dw i wedi bod yn trio canfasio efo pobol ddi-Gymraeg sy’n cefnogi Plaid Cymru jyst i drio dod â hynna mewn i’r peth hefyd.
“Achos mae gen ti rai pobol sydd fatha: ‘O, ti ddim ond yn gwneud hyn i’r blaid, ddim i’r unigolion’.
“Ond dim dyna ydi’r case.
“Felly na, yn sicr, [dw i] wedi cael mwy o ymateb positif na negyddol.”