Mae bron i 150 o arweinwyr gwleidyddol wedi dechrau ymgynnull ym Mharis ar gyfer uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, sy’n dechrau ddydd Llun.
Bydd cynhadledd COP21 yn ceisio darganfod ateb tymor hir i gyfyngu ar allyriadau carbon.
Mae disgwyl i hyd at 40,000 o bobol gymryd rhan yn yr uwchgynhadledd, sy’n para tan 11 Rhagfyr.
Bydd y digwyddiad hwn yn fwy o lawer na’r digwyddiad blaenorol yn Copenhagen yn 2009.
Ar yr agenda fydd trafodaeth ynghylch y berthynas rhwng newid hinsawdd a rhoi terfyn ar frawychiaeth.
Mae rhai arweinwyr o’r farn y bydd mynd i’r afael â thymheredd cynyddol y ddaear yn diddymu un o’r prif ffactorau sy’n arwain at frawychiaeth.
Yn dilyn yr ymosodiadau brawychol ym Mharis, mae disgwyl i 2,800 o heddlu fod yn bresennol o amgylch lleoliad yr uwchgynhadledd.
Bydd miloedd o bobol drwy Ewrop yn gwrthdystio yn ystod yr uwchgynhadledd.