Michael Fallon (Llun: PA)
Mae’r perygl o ymosodiad brawychol yn Llundain “mor gryf” ag yr oedd ym Mharis pan gafodd 130 o bobol eu lladd, yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon.
Yn y Sunday Telegraph, rhybuddiodd Fallon y gallai ymosodiad “yn hawdd” ddigwydd yn Llundain, ac mai trwy rym yn unig y mae trechu’r Wladwriaeth Islamaidd.
Dywedodd Fallon nad oes modd dweud yn sicr na fydd ymosodiad brawychol yn digwydd yn ninasoedd mwyaf gwledydd Prydain.
“Gallai’r hyn ddigwyddodd ym Mharis a Brwsel yn hawdd ddigwydd yn Llundain.
“Mae’r perygl gan Isil mor gryf yma ag yr oedd yn real ym Mharis a Brwsel.”
Er mor gryf yw’r perygl, mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi dweud na fydd yn cefnogi cyrchoedd awyr tros Syria.
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd aelodau seneddol yn gwneud y peth cywir “pan ddaw’r dewis” ynghylch mynd i Syria ai peidio.
Dywedodd Fallon ei fod yn parchu barn Corbyn.
Ond wrth drafod y Wladwriaeth Islamaidd, dywedodd: “Nid pobol y gallwch chi negydu gyda nhw yw’r rhain. Dim ond trwy rym y gallwch chi ymdrin â nhw.”
Ychwanegodd na fyddai milwyr troed yn cael eu defnyddio yn Syria.