Vladimir Putin
Wrth siarad mewn cynghrair diogelwch o wledydd cyn-Sofietaidd yn Tajikistan, dywedodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin bod Mosgo wedi bod yn rhoi cymorth milwrol i lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad yn Syria a bydd yn parhau i wneud hynny.
Mae’r Arlywydd o’r farn ei bod hi’n amhosibl trechu grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS), sydd mewn rhyfel â llywodraeth Assad, heb helpu’r awdurdodau yn Syria.
Diystyrodd honiadau bod cymorth Mosgo i’r Arlywydd Assad wedi arwain at filiynau o ffoaduriaid i ffoi o’r wlad, gan ddweud mewn datganiad ar y teledu y byddai nifer y ffoaduriaid o Syria yn mynd i Ewrop yn uwch heb gefnogaeth Rwsia i lywodraeth Assad.
Yn ôl yr Unol Daleithiau, mae Rwsia yn cynyddu ei phresenoldeb milwrol mewn maes awyr yn Syria, ac yn bwriadu creu safle ar gyfer gweithrediadau awyr yno. Does dim awyrennau na hofrenyddion wedi cyrraedd yno eto.
Mae dros 4 miliwn o bobl wedi ffoi o Syria erbyn hyn oherwydd y rhyfel cartref yno rhwng llywodraeth yr unben Assad a IS.