Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud bod angen i wleidyddion wneud popeth posib i sicrhau nad yw cenedlaethau’r dyfodol yn profi “erchyllterau rhyfel”.

Fe wnaeth yr arweinydd Llafur newydd y sylwadau ar ôl bod mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Sant Paul i gofio am ymdrechion y lluoedd awyr ym Mrwydr Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Fodd bynnag mae Jeremy Corbyn, sydd yn heddychwr llafar, eisoes wedi codi gwrychyn rhai am wrthod diystyru gwisgo pabi gwyn yn hytrach na phabi coch ar Sul y Cofio.

Ac er i Corbyn gynnal cyfarfod â’i gyd-Aelodau Seneddol Llafur neithiwr am y tro cyntaf fel arweinydd, mae rhagor wedi cwestiynu ei weledigaeth a chyfeiriad y blaid.

‘Diolchgar hyd byth’

Wrth siarad yn y gwasanaeth i gofio Brwydr Prydain fe ddywedodd Jeremy Corbyn y byddai’r wlad yn ddiolchgar hyd byth am ymdrechion y lluoedd awyr.

“Roedd fy mam yn warden cyrchoedd awyr a fy nhad yn y fyddin gartref,” meddai Corbyn, sydd yn gadeirydd ar ymgyrch Stop The War Coalition.

“Fel yr holl genhedlaeth honno, fe ddangoson nhw ddewrder aruthrol er mwyn goresgyn ffasgiaeth. Roedd arwriaeth yr Awyrlu ym Mrwydr Prydain yn rhywbeth rydyn ni gyd yn ddiolchgar amdano.

“Fe ddylai’r bywydau gafodd eu colli – sifiliaid a milwrol – gael eu cofio fel ein bod ni yn anrhydeddu eu bywydau a gwneud popeth y gallwn ni i atal cenedlaethau’r dyfodol rhag profi erchyllterau rhyfel.”

Aelodau’n anhapus

Mae rhai o aelodau blaenllaw’r Blaid Lafur, fodd bynnag, wedi parhau i gwestiynu gweledigaeth Jeremy Corbyn a chyfeiriad y blaid o dan ei arweinyddiaeth.

Dywedodd y cyn-ganghellor Alistair Darling nad oedd yn siŵr “dros beth mae e’n sefyll” ac nad oedd “yn newydd ond yn wahanol”.

“Fe wnâi aros i weld beth sydd ganddo i’w wneud,” meddai Alistair Darling wrth The Herald.

“Dw i’n credu bod gan y rhan fwyaf o gymylau ymyl arian, ond dw i ddim yn gweld yr ymyl arian hwnnw ar y foment.”

Yn ôl Simon Danczuk, un o’r ASau Llafur oedd yn y cyfarfod â Corbyn neithiwr, roedd yr arweinydd wedi wynebu cwestiynau pigog ar sawl mater gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd, Nato a Trident.

“Does dim amheuaeth bod cyfran sylweddol o’r Aelodau Seneddol Llafur yn bryderus am rai o’r safbwyntiau polisi sydd ganddo ac yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd yn cymedroli rhai o’r safbwyntiau hynny,” meddai Simon Danczuk.