Mohamed Morsi
Mae dau o arweinwyr y Frawdoliaeth Fwslimaidd wedi cael eu harestio gan awdurdodau’r Aifft ar ôl bod ar ffo am ddwy flynedd, yn ôl swyddogion diogelwch.

Roedd prif glerigwr crefyddol y grŵp, Abdel-Rahman el-Bar, a Mahmoud Ghozlan, cyn lefarydd y Frawdoliaeth, wedi bod yn cuddio yn nhref Giza pan gawson nhw eu harestio.

Roedd y Frawdoliaeth Fwslimaidd yn un o grwpiau gwleidyddol mwyaf dylanwadol yr Aifft tan i’r awdurdodau lansio ymgyrch yn erbyn y sefydliad ar ôl i’w Arlywydd, Mohammed Morsi, gael ei ddisodli gan y fyddin ym mis Gorffennaf 2013.