David Cameron
Bydd David Cameron yn cadeirio pwyllgor y Cabinet sy’n gyfrifol am y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd hefyd yn cadeirio tasglu fydd yn cwrdd â’r nod o dorri niferoedd y mewnfudwyr o “ddegau o filoedd”, yn ogystal â’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol a’i is-bwyllgorau.

Mae’r pwyllgorau newydd hyn ymhlith 10 a sefydlwyd mewn ymgais i wthio polisïau allweddol y Llywodraeth.

Mae’n cael ei gymharu â phwyllgorau tebyg a sefydlwyd gan Tony Blair a gafodd ei ddiddymu pan ddaeth y Glymblaid i rym yn 2010 yng nghanol beirniadaeth ei fod yn gosod gormod o reolaeth ganolog ar adrannau.

Mae un o dasgau’r pwyllgor mewnfudo yn cynnwys addewid y Prif Weinidog i leihau nifer y mewnfudwyr o ddegau o filoedd – targed y methodd â chyrraedd yn y senedd ddiwethaf.

Bydd ei bwyllgor ar Ewrop yn ystyried materion sy’n ymwneud â refferendwm o aelodaeth yr UE yn unig.  Bydd pwyllgor arall, dan gadeiryddiaeth Philip Hammond, yn ystyried materion eraill sy’n ymwneud ag Ewrop.