Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond
Mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond yn cymryd rhan mewn uwchgynhadledd ym Mharis heddiw i adolygu rol y lluoedd arfog rhyngwladol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Irac.

Mae’n dod ar ôl adroddiadau bod Llywodraeth y DU yn paratoi i ehangu ei gynllun hyfforddi – sydd ar hyn o bryd yn digwydd mewn ardal Cwrdaidd gymharol ddiogel yng ngogledd Irac – i rannau mwy peryglus o’r wlad er mwyn cefnogi cynllun tebyg gan yr Unol Daleithiau.

Mae gan Brydain eisoes fwy na 100 o filwyr yn yr ardal Cwrdaidd, ble maen nhw wedi hyfforddi 1,200 o filwyr peshmerga mewn sgiliau ymladd gan gynnwys saethu, cymorth cyntaf, creu dyfeisiadau ffrwydrol, a chynnal a chadw arfau.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud o’r blaen ei fod yn ofni fod y frwydr yn erbyn eithafiaeth yn “frwydr cenedlaethau” sy’n peri “perygl clir” i ddiogelwch yn Ewrop.

Gweinidog Tramor Ffrainc, Laurent Fabius, sy’n cynnal y trafodaethau a fydd hefyd yn canolbwyntio ar ffyrdd o stopio cyllid IS ac atal ei ddylanwad rhag lledaenu.

Mae cynrychiolwyr o 22 o wledydd yn rhan o’r glymblaid byd-eang a ffurfiwyd i fynd i’r afael ag IS, gan gynnwys prif weinidog Irac, Haider al-Abadi.

Fel rhan o ymosodiadau awyr y glymblaid, dan arweiniad yr Unol Daleithiau, mae awyrennau’r Awyrlu Brenhinol wedi cynnal mwy na 250 o ymosodiadau yn Irac.