Fe fydd gweinidogion Llywodraeth Cymru heddiw’n pleidleisio tros wahardd pobol rhag smygu mewn ceir sy’n cludo plant o dan 18 oed, a rhoi dirwy o £50 i bobol sy’n anwybyddu’r gwaharddiad.
Pe bai’n cael ei basio, byddai’r newid yn dod i rym ar 1 Hydref eleni.
Rhwng 11 Medi 2014 a 24 Hydref 2014 cynhaliwyd ymgynghoriad ar y gwaharddiad arfaethedig. Cytunodd 86% o’r ymatebwyr y dylid gwahardd smygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant dan 18 oed yn bresennol.
Cymru yw’r wlad gyntaf ym Mhrydain i fynd i’r afael â smygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol.
Mae Gweinidog Iechyd Mark Drakeford eisoes wedi dweud y bydd y gwaharddiad yn amddiffyn plant rhag peryglon mwg tybaco, a all arwain at glefydau cronig.