Dylai’r Llywodraeth nesa’ fuddsoddi mewn gofal meddygol yng nghefn gwlad a gwneud mwy i ddenu meddygon ifanc i hyfforddi a gweithio yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan uwch feddygon a chynrychiolwyr cleifion.

Yn dilyn adroddiad ‘Mynd i’r afael a’r her’ gan y Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) Cymru’r llynedd, mae swyddogion wedi ymweld ag ysbytai ledled Cymru yn holi meddygon am eu blaenoriaethau.

Mae’r cynllun gweithredu newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn galw am fuddsoddi mewn meddygaeth yng nghefn gwlad ac yn y gymuned; dull newydd o ad-drefnu, wedi’i arwain gan glinigwyr ac wedi’i gynllunio o amgylch cleifion; a blaenoriaeth i ddenu meddygon iau i hyfforddi a gweithio yng Nghymru.

O dan arweiniad Dr Alan Rees, Is-lywydd yr RCP dros Gymru, mae’r  tîm  hefyd yn tynnu sylw at bedwar prif faes, sef:

  • Defnyddio dull gweithredu newydd sy’n canolbwyntio ar y claf wrth newid y GIG
  • Buddsoddi yn GIG Cymru heddiw i sicrhau bod gofal da ar gael yn y dyfodol
  • Canolbwyntio ar ddatblygu a chefnogi’r gweithlu meddygol
  • Lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd a gwella iechyd cyhoeddus

Ad-drefnu

“Mae’n rhaid i’r ad-drefnu gael ei arwain yn glinigol ac mae’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth,” meddai Dr Alan Rees, Is-lywydd yr RCP dros Gymru.

“Mae angen cynllun hirdymor arnom hefyd, ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac arweiniad cenedlaethol gan Lywodraeth nesaf Cymru o ran rhoi cleifion wrth galon gofal.

“Rydyn ni am i’r newid gael ei arwain go iawn gan gleifion a chlinigwyr, yn hytrach na chael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn ystod y broses gynllunio fel rhywbeth sydd wedi cael ei benderfynu’n barod.”