Pwll Zasyadko (Yakudza CCA 2.0)
Mae o leia’ 32 o bobol wedi marw a dwsinau wedi cael eu caethiwo o dan y ddaear ar ôl ffrwydrad mewn pwll glo yn nwyrain yr Wcráin.

Digwyddodd y ffrwydrad ym mhwll glo Zasyadko yn ardal Donetsk, sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr sy’n cefnogi Rwsia.

Roedd 230 o bobol o dan y ddaear ar adeg y ffrwydrad ac mae o leia’ 157 wedi cael eu hachub, yn ôl yr awdurdodau yn Donetsk.

Does dim awgrym bod y ffrwydrad wedi cael ei achosi gan effeithiau’r gwrthdaro rhwng yr Wcrain a Rwsia.

Mae nifer o ddamweiniau wedi bod yn y pwll yn y gorffennol, gan gynnwys y ddamwain lo waetha’ yn hanes yr Wcrain pan gafodd 101 o bobol eu lladd yn 2007.

‘Cymysgedd o nwy ac aer’

Dywedodd llefarydd ar ran y tîm achub, Yuliana Bedilo, fod y ffrwydrad wedi cael ei achosi gan gymysgedd o nwy ac aer –  sy’n un o’r rhesymau cyffredin tros ffrwydradau mewn pyllau glo.

Mae tua 500,000 o bobol yn cael eu cyflogi gan y diwydiant glo yn ardal Donbass.