Y ddamwain (Llun: PA)
Mae disgwyl i gwest agor ym Mryste heddiw i farwolaeth pedwar person a fu farw mewn damwain lori yng Nghaerfaddon.

Ar 9 Chwefror, bu farw tri dyn o Gymru a merch bedair oed o Gaerfaddon ar ôl i lori 32 tunnell golli rheolaeth a tharo nifer o gerbydau a cherddwyr wrth deithio i lawr allt serth yn Upper Weston, Caerfaddon.

Y tri Chymro oedd Stephen Vaughan, 34 oed o Benyrheol; Phil Allen, 52 oed o Gasllwchwr a Robert Parker, 59 o Gwmbrân.

Roedd  y lori wedi dymchwel a glanio ar eu car.

Y ferch fach

Fe fu farw Mitzi Rosanna Steady hefyd ar ôl iddi hi a’i nain gael eu taro gan y lori wrth gerdded i lawr yr allt.

Mae’r fam-gu yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd gyrrwr y lori sy’n 19 oed a dyn 28 oed – y perchennog – eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth ar 18 Chwefror.