Edwina Hart
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa newydd o £3m ar gyfer ceisio troi prosiectau mewn meysydd fel planhigion a iechyd i mewn i fusnesau fydd yn ffynnu.

Yn ôl y Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, mae angen ceisio manteisio’n economaidd o’r ymchwil sydd yn cael ei wneud yng Nghymru a hyn o bryd.

Wrth siarad yng nghynhadledd BioCymru 2015 yng Nghaerdydd fe fydd yn dweud y bydd y gronfa bontio yn cael ei rheoli gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ac yn cefnogi hyd at 20 prosiect ymchwil dros ddwy flynedd.

Ar hyn o bryd mae’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru’n cyflogi tua 10,000 o bobol mewn mwy na 300 o gwmnïau.

Creu ‘busnesau llewyrchus’

Mae cynhadledd BioCymru yng Nghanolfan y Mileniwm yn cynnwys dros 40 o arddangoswyr, gyda Llywodraeth Cymru yn ei ddisgrifio fel cyfle i gwmnïau gofal iechyd gyfarfod â “phrynwyr allweddol” yng ngwasanaeth iechyd Cymru.

Mae disgwyl cyfraniadau gan nifer o siaradwyr fydd yn trafod cyfleoedd masnachol o fewn y diwydiant iechyd, treialon meddygol a rheoleiddio meddyginiaeth.

Ac fe fynnodd Edwina Hart fod y gronfa newydd yn mynd i roi mwy o gyfle i fusnesau o Gymru gael eu troed yn y drws.

Fe fydd y gronfa yn cael ei rheoli gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd fydd yn penodi Bwrdd Cynghori Gwyddonol ddosbarthu’r arian.

Mae disgwyl hefyd i’r bwrdd geisio cael gafael ar gyllid cyfatebol o ffynonellau eraill hefyd yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i gynyddu’r arian fydd ar gael.