Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi ei bod am werthu ei chyfran yng ngwasanaeth trên Eurostar am £757 miliwn.
Mae’n golygu mai consortiwm o gwmnïau buddsoddi – Caisse de Depot et Placement du Quebec (CDPQ) a Hermes Infrastructure – fydd yn berchen ar ran Llywodraeth Prydain o’r gwasanaeth cyflym sy’n croesi dan y Sianel.
Cafodd y bwriad i werthu ei gyhoeddi gynta’ gan George Osborne yn Natganiad yr Hydref 2013, yn rhan o gynllun i werthu £20 biliwn o asedau.
Er bod y Llywodraeth wedi cael mwy na’r disgwyl am ei rhan o Eurostar, mae arweinwyr undebau yn dweud fod y penderfyniad yn gwneud gwledydd Prydain yn “destun jôc” i weddill Ewrop.
Bargen
Dywedodd George Osborne fod y cytundeb i werthu rhan o Eurostar yn “fargen dda iawn i drethdalwyr Prydain”.
Ond yn ol Mick Cash o undeb rheilffordd yr RMT: “Mae gwerthu’r rhan Brydeinig werthfawr o Eurostar cyn yr etholiad yn fandaliaeth ddiwydiannol Thatcher-aidd sydd wedi ein gwneud yn destun jôc ar draws Ewrop,” meddai.
“Mae pobol Ffrainc a Gwlad Belg yn meddwl ein bod yn wallgo’ yn gwerthu ased fel hyn. Mae’n gynllun tymor byr arall cyn yr etholiad.”