Cameron - 'mwy poblogaidd na Miliband'
Mae nifer y pleidleiswyr yng Nghymru sydd eisiau gweld mwy o bwerau yn cael eu datganoli i’r Cynulliad wedi syrthio ond mae’r gefnogaeth i Gymru annibynnol wedi dyblu o 3% i 6%.
Dyna ganlyniad arolwg barn Gŵyl Dewi a gynhaliwyd gan gwmni ICM ar ran BBC Cymru.
O ran prif weinidog, fe fyddai’n well gan fwy o bleidleiswyr yng Nghymru weld David Cameron yn hytrach nag Ed Miliband wrth y llyw.
Y Cymry’n ffafrio Cameron
Roedd 34% o’r 1000 o bobol yn dweud y byddai’n well ganddyn nhw weld arweinydd y Ceidwadwyr mewn grym yn Stryd Downing, o’i gymharu â’r 23% oedd o blaid arweinydd y blaid Lafur.
Roedd 8% yn ffafrio arweinydd UKIP Nigel Farage, 5% o blaid y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a 21% heb ddewis yr un o’r pedwar.
Hyn ar ôl gofyn i bobol ddiystyru pa blaid y bydden nhw’n ei chefnogi.
Y Cynulliad
Er bod y gefnogaeth dros Gymru annibynnol wedi codi, roedd cwymp yn nifer y bobol sy’n dymuno gweld mwy o bwerau yn cael eu rhoi i’r Cynulliad – 40% o’i gymharu â 49% ym mis Medi, yn union wedi refferendwm yr Aban.
Dyma’r ffigurau:
- Annibyniaeth – 6% – cynnydd o 3%.
- Mwy o rym – 40% – gostyngiad o 9%
- Fel y mae – 33% – cynnydd o 6%.
- Llai o rym i’r Cynuliad – 4% – cynnydd o 2%
- Dileu yn llwyr – 13% – cynnydd o 1%.
Bwlch
“Mae’r pôl yma’n cyd-fynd â’r hyn rydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diweddara;,” meddai’r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae yna fwlch bellach rhwng y sawl sy’n weddol hapus â’r sefyllfa sydd ohoni, a’r grŵp ychydig yn fwy sy’n dymuno gweld pethau’n mynd ymhellach, ond ddim mor bell ag annibyniaeth.”