Phil Bale, arweinydd Cyngor Caerdydd
Fe ddylai Llywodraeth Cymru osod mesurau arbennig ar Gyngor Dinas Caerdydd, yn ôl llefarwyr ar ran Plaid Cymru.
Mae’r Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, a’r Cynghorydd Neil McEvoy wedi galw ar i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, ymyrryd ac, os bydd angen, i drefnu etholiadau brys.
Maen nhw’n dweud bod y ddinas bron â dod i stop oherwydd ffraeo cyson rhwng y cynghorwyr Llafur sy’n rheoli’r cyngor.
Llythyr at Leighton Andrews
Mae’r ddau wedi sgrifennu at Leighton Andrews ar ôl cyfarfod i setlo cyllideb y cyngor yr wythnos ddiwetha’.
Roedd y grŵp Llafur wedi gorfod cynnal nifer o gyfarfodydd munud ola’ i geisio cael cytundeb mewnol ar y gyllideb, medden nhw.
Roedd gwelliannau wedi eu cynnig ar welliannau a’r drafodaeth wedi gorfod cael ei gohirio sawl tro, meddai’r llythyr.
Mae’r ddau’n honni bod cyn aelodau cabinet Llafur hyd yn oed wedi galw’r broses yn “draed moch…. gwarthus… cywilyddus… ffars”.
Manteisio ar broblemau
Fe fydd y llythyr yn cael ei weld yn ymgais gan Blaid Cymru i fanteisio ar broblemau’r Blaid Lafur ar gyngor mwya’ Cymru a does dim ateb wedi dod eto gan y Llywodraeth.
Roedd un o gyn arweinwyr Llafur y Cyngor hefyd wedi awgrymu mewn llythyr preifat y dylai’r arweinydd presennol, Phil Bale, ymddiswyddo.
Mae yntau wedi gwrthod gwneud hynny ond dyma’r diweddara’ mewn cyfres o argyfyngau i’r grŵp sy’n rheoli’r cyngor.