Mae incwm teuluoedd yn ôl i’r lefelau oedden nhw cyn y chwalfa ariannol, yn ôl corff ymchwil economaidd.

Ond mae incwm teuluoedd oed gwaith yn dal i fod yn is ac mae’r broses adfer wedi body n “rhyfeddol” o araf, meddai’r Institute for Fiscal Studies, yr IFS.

Mewn papur cyn-etholiad ar safonau byw, mae’r ymchwilwyr yn dweud bod cyflog hanner-ffordd (median) bellach yn ôl i’r un lefel ag yn 2007.

Ond mae’n dal i fod yn is na’r pwynt ucha’ yn 2009-10 ac mae pobol hŷn wedi gwneud yn well na phobol sydd yn oedran gweithio.

I bobol iau rhwng 22 a 30 oed, mae’r lefel hanner-ffordd yn dal i fod 8% yn is nag oedd incwm ar ei ucha’.

Arafwch

Yn ôl Llywydd yr IFS, Paul Johnson, arafwch yr adferiad y tro yma oedd yn drawiadol – mae wedi bod yn llawer arafach na’r gwella ar ôl argyfyngau ariannol tebyg, er enghraifft yn nechrau’r 1980au.

Mae gwario ar nwyddau fel bwyd a thanwydd yn parhau i fod yn is nag yn 2007-8 a hynny, meddai’r IFS, yn awgrymu bod pobol yn meddwl bod eu hincwm am ddiodde’ yn y tymor hir.

Mae llefarwyr ar ran Llywodraeth Prydain wedi croesawu’r ffigurau gan ddweud bod disgwyl i incwm teuluoedd godi eto yn y blynyddoedd nesa’.