(Llun PA)
Mae angen rhoi cynnig ar roi dirwyon o £10 i gleifion sy’n methu cadw at drefniant i weld doctor, meddai Ceidwadwyr Cymru.

Does dim cosb am hynny ar hyn o bryd ond, y ôl llefarydd iechyd y blaid, Darren Millar, mae’r system yn “annheg” iawn ac yn costio £30 miliwn bob blwyddyn mewn arian cyhoeddus.

Yn ôl yr ystadegau, dyw un o bob deg claf ddim yn cadw at drefniant i weld eu meddyg teulu ac mae un o bob naw yn colli apwyntiadau mewn ysbytai.

‘Cam-drin’

“Mae adnoddau’r gwasanaeth iechyd yn cael eu camddefnyddio a’u cam-drin, felly beth r’yn ni’n ceisio gwneud yw annog pobol i ymddwyn yn fwy cyfrifol,” meddai Darren Millar, AC Gorllewin Clwyd.

“R’yn ni’n teimlo bod angen peilot i godi tâl ar y rheiny sy’n colli apwyntiad heb reswm da. Os ydy hynny’n arwain at leihad yn y nifer sy’n colli apwyntiadau yna fe fydd yn werth cael ei ehangu ar draws y wlad.

“Mae’r gost o drefnu cyfarfod deg munud gyda doctor o gwmpas £30, yn ôl ymchwil gan y King’s Fund (elusen iechyd). Dydyn ni ddim yn cynnig codi tâl o £30 ond mi fydden ni’n awgrymu tâl o tua £10 fel cosb.

“Rwy’n meddwl bod hynny’n hollol resymol a byddai’n gweithredu fel ataliad i beidio troi fyny a gobeithio yn lleihau amseroedd aros.”

‘Deniadol ond anymarferol’ – meddai’r Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod dirwyo ar y wyneb yn “ddeniadol” i rai, ond nad yw’n “ymarferol” ac mae’r cynnig yn codi nifer o “faterion moesol”.

“R’yn ni’n cytuno gyda’r angen i drafod y mater o gyfrifoldeb unigol,” ychwanegodd, “fel bod pobol yn gwybod os ydyn nhw’n cam-drin y Gwasanaeth Iechyd neu ei staff nad ydyn nhw’n gallu disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd ddod i’r adwy yn ddiamod.”

Stori: Gareth Pennant