Gorsaf Caerdydd - disgwyl cynnydd anferth
Mae Network Rail yn dechrau ymgynghori ynglŷn â gwelliannau i’r drefn rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae’r cynigion tros 30 mlynedd yn cynnwys gwella’r rheilffordd ar hyd gogledd Cymru a chael trenau gyda mwy o seddi i wasanaethu’r Cymoedd.
Dyma rai o’r posibiliadau eraill:
- Rhagor o drenau rhwng Wrecsam a Chaer a gwasanaethau cyflymach o Wrecsam i Bidston a thrwodd i Lerpwl.
- Gwella prif orsaf rheilffordd Caerdydd lle mae disgwyl cynnydd anferth yn nifer y teithwyr – o 16 miliwn y flwyddyn i 33 miliwn erbyn 2043.
- Datblygu system trenau metro yng Nghaerdydd.
- Rhagor o wasanaethau ar amseroedd brig o Aberystwyth ac Abertawe i’r Amwythig.
Fe fydd gan bobol hyd at ddechrau Mehefin i fynegi barn.