Rhai o filwyr IS (Llun - PA)
Mae dyn o ogledd Lloegr wedi cael ei ladd yn ymladd yn erbyn y garfan Islamaidd filwrol, IS.

Yn ôl mudiad Cwrdaidd, roedd Konstandinos Erik Scurfield o Barnsley yn Swydd Efrog wedi cael ei ladd mewn brwydr, a hynny fwy na thebyg mewn tref o’r enw Hasakah yn Syria.

Mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain wedi cadarnhau eu bod wedi cael gwybodaeth am farwolaeth dyn o wledydd Prydain yn Syria ond, oherwydd nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth yno, does dim llawer o wybodaeth.

Os yw’r adroddiadau’n gywir, dyma’r dyn cynta’ o wledydd Prydain i gael ei ladd yn ymladd yn erbyn IS.

Roedd Konsatndinos Scurfield yn gyn aelod o’r Royal Marines ac mae ei fam wedi cael gwybod am ei farwolaeth.