Heddlu arfog yn Sydney
Roedd dau ddyn ar fin cynnal ymosodiad brawychol pan gawson nhw eu harestio yn Sydney, meddai’r heddlu yn Awstralia.
Yn ystod cyrch yn ardal Fairfield, daeth swyddogion o hyd i faner y Wladwriaeth Islamaidd (IS), machete a chyllell hela.
Roedd yr heddlu hefyd wedi dod o hyd i fideo yn dangos un o’r dynion yn gwneud bygythiadau, er nad yw’r heddlu wedi dweud beth oedd y bygythiad.
Fe fyddai’r dynion, sy’n 24 a 25 oed, wedi cynnal ymosodiad yn fuan petai nhw heb gael eu harestio’r diwrnod hwnnw, meddai’r heddlu yn New South Wales.
“Rydym ni’n credu bod y dynion o bosib yn bwriadu gwneud niwed i rywun, neu hyd yn oed lladd rhywun,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Maen nhw’n ceisio darganfod a oedd y dynion mewn cysylltiad ag unrhyw un o IS.
Cafodd Omar Al-Kutobi a Mohammad Kiad eu cyhuddo o gyflawni gweithredoedd i baratoi neu gynllwynio ar gyfer gweithred frawychol. Nid oedd cyfreithiwr y ddau wedi gwneud cais am fechnïaeth.