Ed Balls
Mae’r Blaid Lafur wedi addo gweithredu yn erbyn pobol sy’n defnyddio dulliau o osgoi talu trethi pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd llefarydd economi’r wrthblaid, Ed Balls fod Prif Weinidog Prydain, David Cameron a’r Canghellor George Osborne wedi methu yn eu hymdrechion hyd yn hyn.

Daw’r sylwadau wedi iddi ddod i’r amlwg fod cangen o HSBC yn Y Swistir yn cynghori cwsmeriaid o wledydd Prydain ynghylch sut i osgoi talu eu trethi.

Fe fydd aelodau seneddol yn holi pennaeth Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), Lin Homer yn dilyn y ffrae.

Bydd Homer yn rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth i’r Blaid Lafur geisio darganfod a oedd cyn-gadeirydd a phrif weithredwr HSBC, yr Arglwydd Green yn gwybod am weithgarwch y banc pan gafodd ei benodi’n Weinidog Masnach Llywodraeth Prydain.