Jane Hutt
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd £5.8 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar dai cymdeithasol yn 2014-15.

Bydd y buddsoddiad newydd yn cefnogi Rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol, a’r gwaith o ddarparu 70-90 o gartrefi newydd fforddiadwy.

Mae’n ychwanegol i £20 miliwn gafodd ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf gan y Llywodraeth er mwyn gwella stoc tai a thai gwag yng Nghymru.

Sbardun economaidd

Dywedodd y Gweinidog Cyllid:  “Bydd y buddsoddiad newydd hwn nid yn unig yn caniatáu inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddarparu 70 i 90 o gartrefi fforddiadwy, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru, ond bydd hefyd yn sbardun economaidd ar gyfer swyddi a thwf.”

“Mae’n golygu, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol sylweddol sydd wedi’u gosod ar ein cyllidebau, byddwn wedi buddsoddi £10.8 miliwn o gyllid ychwanegol mewn tai o gronfeydd wrth gefn yn 2014-15.”

Targed uchelgeisiol

Ychwanegodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: “Un o’m blaenoriaethau pennaf yw cynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud cynnydd da o ran cyrraedd ein targed uchelgeisiol o adeiladu 10,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn mis Mai 2016, gan ein bod ni eisoes wedi darparu bron 7,000 o gartrefi yn ystod tymor hwn y Cynulliad.

“Mae’r cyllid ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn hwb gwerthfawr i’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru, a bydd yn creu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da i bobl ar hyd a lled y wlad.”