Tŵr Meridian yn Abertawe
Fe fydd dyn arfog gafodd ei arestio am gadw dyn arall yn wystl yn adeilad uchaf Cymru’r llynedd yn cael ei gadw mewn uned seiciatryddol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Roedd Lindsey Edward Coffey, 38 oed,  o Bontlliw eisoes wedi pledio’n euog o fod a gwn ffug yn ei feddiant a chadw dyn yn wystl, yn dilyn y digwyddiad yn Nhŵr Meridian ym Marina Abertawe fis Awst y llynedd.

Cafodd ei arestio ar ôl cael mynediad i fwyty’r Grape and Olive yn yr adeilad gyda gwn ffug yn ei feddiant.

Clwydodd gwrandawiad ei fod yn dioddef o salwch sgitsoffrenia difrifol.

Bydd yn cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn ysbyty seiciatrig Cefn Coed yn Abertawe.