Mae dwy dref yng ngogledd Cymru wedi derbyn caniatâd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i ddatblygu cynlluniau ar gyfer prosiectau Treftadaeth Treflun, gyda buddsoddiad o £2.6 miliwn.

Mae’r prosiectau dan sylw wedi’u lleoli yn Nolgellau, Gwynedd (£1.5m) a Chaergybi, Ynys Môn (£1.1m), lle bydd gwaith cynnal a chadw ar adeiladau hanesyddol blaenllaw yn digwydd.

Fe fydd y grantiau Treftadaeth Treflun yn sicrhau atgyweiriad ac adferiad adeiladau hanesyddol, blaenllaw, yn ôl y Loteri.

Ar ben hynny, fe fydd cyfleoedd hyfforddi’n cael eu creu fel rhan o’r gwaith cadwraeth gan gynnig cyfleoedd i ddysgu am dreftadaeth leol a magu sgiliau newydd.

Hwb economaidd

“Rydym wedi cefnogi prosiectau adfywio yn y ddwy dref yn y gorffennol ac wedi gweld datblygiadau syfrdanol yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai Jennifer Stewart, Pennaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.

“Rydym eisiau helpu rhoi hwb economaidd i Ddolgellau a Chaergybi a helpu iddyn nhw weithio gyda busnesau bychain a chymunedau i ddiogelu ac adfywio eu treftadaeth ac adeiladau unigryw – yr adeiladau hyn sy’n creu hanes.”

Dyma fanylion gan y Loteri ynglŷn â’r prosiectau:

Dolgellau – Gemwaith Pensaernïol

O’r 180 adeilad rhestredig yn y dref, mae tri lleoliad eisoes wedi eu dewis fel canolbwynt i’r prosiect: Llys Owain, y Stryd Fawr a Felin Isaf.

Bydd gwaith cadw yn cynnwys dod a lloriau uwch, gwag yn ôl i ddefnydd, ynghyd â gwaith adfywio blaen siopau, balconïau a ffenestri.

Wrth groesawu’r grant, dywedodd, Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: Mae yna hanes ym mhob twll a chornel o’r dref ac mae’n hollbwysig ein bod yn diogelu’r hanes hwnnw tra hefyd yn helpu i’r dref ffynnu.”

Caergybi – Porth Treftadaeth

Fe fydd y grant CDL yn cefnogi’r cynllun adfywio Cyngor Ynys Môn gan gadw adeiladau hanesyddol sy’n dirywio ac, mewn rhai achosion, adfer manylion pensaernïol pwysig gan ddefnyddio casgliad o luniau hanesyddol o’r 1940au a’r 1950au.

Dywedodd Aelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth AC: “Mae gan Gaergybi dreftadaeth gyfoethog ac mae’n borth twristiaeth arwyddocaol i Gymru gyfan. Yn sgil hynny, mae’n hollbwysig ein bod yn ei ddiogelu.”