Fe fydd Cyngor Gwynedd yn gwario £850,000 ar ailwampio Pwll Nofio Bangor.
Fe fydd yr arian yn mynd ar waith cynnal a chadw “hanfodol” ac estyniad i’r safle yn ogystal â moderneiddio y tu allan a tu mewn i’r adeilad.
Er mwyn cwblhau’r gwelliannau, bydd y pwll ar gau o ddydd Mercher 18 Chwefror 2015 hyd yr haf.
Dywedodd y cynghorydd lleol Mair Rowlands, Aelod Cabinet Hamdden Cyngor Gwynedd y bydd y cyllid yn “sicrhau dyfodol y ganolfan am flynyddoedd i ddod”:
“Rwy’n sicr bydd y datblygiadau newydd, sydd yn cynnwys offer ffitrwydd newydd a gosod stiwdio fechan, yn gwella’r gwasanaeth a’r gweithgareddau sydd ar gynnig yn y ganolfan.
“Fel Cyngor, hoffem ymddiheuro am unrhyw anawsterau a achosir drwy gau’r ganolfan dros y misoedd nesaf er mwyn cwblhau’r gwaith adeiladau angenrheidiol.
“Byddwn yn annog defnyddwyr Pwll Nofio Bangor i ddefnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael yng nghanolfannau hamdden eraill Cyngor Gwynedd yn yr ardal gyfagos hyd nes bydd y ganolfan yn ail-agor yn yr haf.”