Fe fydd y Dirprwy Weinidog Technoleg, Julie James, yn ymweld ag ysgol gynradd yn y Barri heddiw i nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

Mae’r diwrnod cenedlaethol yn cael ei gynnal bob mis Chwefror er mwyn hybu defnydd mwy diogel a mwy cyfrifol o dechnoleg ar-lein, ac yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc.

Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno sesiynau addysgu ar ddefnydd diogel a chyfrifol o’r Rhyngrwyd fel rhan o gwricwlwm ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Bydd plant o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru All Saints, Y Bari, ynghyd â disgyblion o Ysgol Gyfun Sandfields, Port Talbot, yn ymddangos mewn ffilm newydd o’r enw #Up2Us sy’n ceisio ysbrydoli pobol ifanc i fynd i’r afael â bwlio dros y we.

“Mae’r gweithgareddau hyn yn tystio i ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant a phobol ifanc yn ddiogel ar-lein ac mae parth e-Ddiogelwch Hwb yn cynnig cyngor ac arweiniad i bobl ifanc a hefyd i athrawon a rhieni,” meddai Julie James.