Ysbyty Glan Clwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau y bydd gofal mamolaeth ymgynghorol yn cael ei dynnu yn ôl o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am oddeutu 12-18 mis, oherwydd problemau recriwtio.
Mae’n golygu y bydd mamau sy’n cael trafferthion wrth roi genedigaeth yn cael eu trosglwyddo i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam, a fydd yn cadw eu gwasanaethau.
Daw’r newydd naw mis yn unig ar ôl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi y byddai canolfan gofal dwys i fabis newydd yn cael ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud y bydd y ganolfan yn parhau i fynd yn ei blaen er gwaetha’r cynigion i israddio rhan arall o’r adran.
‘Pryder’
Mewn ymateb i gyhoeddiad y bwrdd iechyd, dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru:
“Mae cynllun y Bwrdd Iechyd i symud gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd o Ysbyty Glan Clwyd o fis Ebrill ymlaen yn peri dryswch a phryder.
Bydd yn golygu y bydd yn rhaid i lawer o famau tro cyntaf a’r sawl sy’n cael eu hystyried mewn perygl orfod dewis cael eu babanod naill ai ym Mangor neu Wrecsam. B
Bydd hynny’n rhoi mwy o straen ar y gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbytai hynny, yn ogystal ag ar y gwasanaeth ambiwlans ar hyd yr A55.
Rwy’n pryderu am iechyd mamau fydd yn treulio gormod o amser yn y tagfeydd traffig rheolaidd sy’n digwydd ar hyd y ffordd hon.”
‘Dryswch’
Ychwanegodd: “Yr hyn sy’n peri dryswch yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai yng Nglan Clwyd y bydd canolfan gofal dwys rhanbarthol gogledd Cymru i fabanod newydd-anedig, ac eto heddiw, dyma’r bwrdd iechyd yn cyhoeddi nad oes ganddynt ddigon o ymgynghorwyr i staffio rota ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn yr un ysbyty.
“Mae’n rhaid i ni gael yr arbenigedd i ofalu am fabanod newydd-anedig a mamau yn ein hysbytai, ac y mae’r penderfyniad hwn yn dystiolaeth bellach nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun strategol i gyflwyno gwasanaeth iechyd i bawb yng ngogledd Cymru.”