Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cadarnhau bod dynes o’r Unol Daleithiau oedd yn cael ei chadw’n wystl gan fudiad eithafol IS wedi cael ei lladd.
Fe wnaeth rhieni’r gweithiwr dynagrol, Kayla Jean Mueller, 26, gyhoeddi datganiad y prynhawn yma yn dweud eu bod wedi “torri’u calonnau”.
Roedd IS wedi honni’r wythnos diwethaf bod Kayla Mueller wedi cael ei lladd mewn cyrch awyr yng Ngwlad yr Iorddonen ond wedi methu profi hynny.
Kayla Mueller oedd yr unig wystl o’r Unol Daleithiau oedd yn cael ei dal gan IS.
Cafodd ei chymryd yn wystl gan eithafwyr ym mis Awst 2013 wrth iddi adael ysbyty yn Syria.