Yr olew yn y draeniau yng Nghaerdydd
Mae cymysgedd o olew a deunyddiau glanhau wedi cronni mewn peipen garthffosiaeth yng Nghaerdydd gan greu rhwystr – neu ‘fatberg’ -tair troedfedd o hyd yn y draeniau.

Dywedodd swyddogion mai braster ac olew coginio sy’n cael ei roi i lawr draeniau neu eitemau eraill sy’n cael eu rhoi i lawr y toiled sydd wedi achosi’r drafferth o dan Ffordd Mill.

Yn ôl Dŵr Cymru, mae rhwystrau mewn peipiau carthffosiaeth yn costio dros £7 miliwn y flwyddyn i’w glanhau.

Mae’r cwmni wedi annog pobol i feddwl ddwywaith cyn taflu olew neu ddeunyddiau glanhau i lawr eu draeniau.

“Mae’r rhan fwyaf o achosion gennym ni’n delio hefo eitemau bob dydd sy’n cael eu rhoi i lawr y toiled neu bethau coginio sy’n cael eu taflu i lawr y draen,” meddai cyfarwyddwr Dwr Cymru, Steve Wilson.

“Nid yw hi’n cymryd llawer i’r eitemau hyn achosi rhwystrau neu lifogydd mewn cartrefi.

“Byddai lleihau’r rhwystrau hyn hefyd yn golygu bod ein cwmni yn medru buddsoddi mwy mewn gwelliannau eraill i’n cwsmeriaid.”