Mae’r AA yn ystyried cael gwared a 300 o swyddi a chreu 50 o swyddi newydd fel rhan o gynlluniau buddsoddi, cyhoeddodd y sefydliad moduro heddiw.

Dywedodd datganiad gan y cwmni nad oes cynlluniau manwl wedi eu cwblhau, ond fod swyddogion wedi bod yn cynnal adolygiad o’r busnes ers yr haf diwethaf.

Mae’n debyg mai swyddi gweinyddol fydd yn cael eu heffeithio’n bennaf. Ar hyn o bryd mae’r AA yn cyflogi 8,022 o bobl.

Meddai’r datganiad gan AA fod y sefydliad hefyd yn bwriadu cyflogi rhagor o staff rheng flaen i helpu modurwyr sydd wedi torri i lawr yn sgil y toriadau ac mai amcan y cynlluniau yw sicrhau bod cwsmeriaid ac aelodau yn elwa tra’n “gweithredu mor effeithlon â phosibl.

Dywedodd y AA ei fod wedi dechrau trafod diswyddiadau gydag undebau llafur.