Peter Greste yn 2008
Yn ei sylwadau cyntaf i’r wasg ers cael ei rhyddhau o garchar yn yr Aifft, mae’r newyddiadurwr  Peter Greste wedi dweud bod cael ei rhyddhau yn teimlo fel cael ei “ail-eni”.

Dywedodd wrth wasanaeth newyddion Al-Jazeera English ei fod hefyd yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i deulu a gwylio’r haul yn machlud.

“Adegau prydferth fel rheiny sy’n gwneud bywyd gwerth ei fyw,” meddai Peter Greste o Awstralia.

Cafodd y cyn-newyddiadurwr gyda’r BBC  ei ryddhau o’r carchar yn yr Aifft ar ôl treulio 400 diwrnod dan glo.

Cafodd Peter Greste, Mohammed Fahmy a Baher Mohammed eu harestio ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl cael eu cyhuddo o gydweithio â’r Frawdoliaeth Fwslimaidd i geisio cipio grym oddi ar yr Arlywydd Mohammed Morsi.

Nid yw’r Aifft wedi cyhoeddi os fydd y ddau arall yn cael eu rhyddhau.