Mae’r awdurdodau yn ceisio delio a “digwyddiad ” mewn carchar yng Ngogledd Iwerddon lle mae carcharorion gweriniaethol yn cael eu cadw.

Deellir bod y digwyddiad yng Ngharchar Maghaberry, ble mae carcharorion gweriniaethol yn cael eu cadw ar wahân i garcharorion eraill.

Carchar Maghaberry yw’r unig garchar uchel ddiogelwch yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’n gartref i ddynion a gafwyd yn euog o droseddau difrifol a charcharorion sy’n aros am achos llys.

Mae Finlay Spratt, cadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar (POA) yng Ngogledd Iwerddon, wedi beio’r carcharorion am y digwyddiad ond dywedodd nad oedd unrhyw swyddog neu garcharor wedi cael eu hanafu.