Marina Litvinenko
Mae gweddw’r ysbïwr Alexander Litvinenko wedi dweud wrth gwest i’w farwolaeth fod ei gwr yn credu bod Vladimir Putin yn rhan o weithgarwch troseddol ac nad oedd ganddo’r sgiliau i atal llygredd o fewn gwasanaeth diogelwch Rwsia.
Dywedodd Marina Litvinenko bod ei gwr wedi cwrdd ag Arlywydd Rwsia yn 1998, pan oedd o’n arwain gwasanaeth diogelwch y gwasanaeth diogelwch FSB. Ar y pryd, roedd Alexander Litvinenko wedi cael ei wahardd o’i waith am ddod a chynllun i lofruddio’r biliwnydd Boris Berozovsky i’r amlwg.
“Nid oedd yn credu bod Putin, fel cyfarwyddwr FSB, yn medru gwneud unrhyw newidiadau i’w safle,” meddai Marina Litvinenko wrth roi tystiolaeth yn y llys yn Llundain.
“Roedd yn credu ei fod yn rhan o weithgarwch troseddol”, ychwanegodd gan ddweud mai St Petersburg oedd “prifddinas trosedd” Rwsia.
Wedi iddo roi cyfweliad mewn cynhadledd i’r wasg ym mis Rhagfyr 1998, dywedodd wrth ei wraig y byddai’n cael ei ladd neu ei arestio, yn ôl Marina Litvinenko.
Bu farw Alexander Litvinenko ym mis Tachwedd 2006 ar ôl yfed te oedd wedi cael ei wenwyno gyda’r deunydd ymbelydrol poloniwm-210, wedi iddo gwrdd â dau ddyn o Rwsia mewn gwesty yn Llundain.
Mae’r cwest yn parhau.